Model Church in Wales School Carmarthen
Ysgol Wirfoddol Eglwysig Y Model

	
		
	
	
	

Dysg caredigrwydd a ffrindiau cytun, Iesu’r Model, Sy’n helpu pob un

Mae dewis yr ysgol gywir i’ch plentyn yn benderfyniad mawr. Byddwch am i’ch plentyn deimlo’n ddiogel a hapus, yn ogystal â derbyn yr addysg orau. Credwn yn ysgol y Model y bydden ni’n gallu cwrdd â’ch anghenion.

Rydym yn falch iawn o’r safonau cyrhaeddiad, ymddygiad a gofal. Mae’r plant yn mwynhau derbyn cwricwlwm strwythuredig gydag ystod eang o brofiadau all-gyrsiol. Credwn yn gryf fod pob plentyn yn unigryw ac rydym yn gwneud ein gorau i ddatblygu talentau pob unigolyn gan barchu eu teimladau.

Gwerthfawrogwn ein disgyblion a theimlwn fod addysg drwy gyfrwng Cristnogol yn baratoad arbennig i’w bywyd. Pob dydd rydym yn defnyddio Iesu fel ein ‘Model’ ac mae’r bywyd ysgol yn llawn dysgu, cyfeillgarwch a hwyl.

Rydym yn gobeithio y byddwch yn gweld y wefan yn ddefnyddiol a chofiwch i fanteisio ar bob cyfle i’w wirio ar gyfer dyddiadau newydd a llythyron rhieni. Pe bai unrhyw ymholiad cyffredinol gennych, yna cysylltwch a^’r swyddfa neu os oes gennych unrhyw bryder neu ymholiad yngly^n â’ch plentyn, yna cysylltwch ag athro/athrawes eich plentyn neu fi yn bersonol.Os hoffech chi ymweld â’r ysgol neu ofyn unrhyw gwestiwn yna cysylltwch â’r ysgol i wneud trefniadau. Gobeithio rydych yn mwynhau crwydo ein gwefan. Am fanlynion pellach, cysylltwch â’r ysgol ar y cyfeiriad islaw.

Diolch,

Mrs Amanda Bowen-Price

Pennaeth

Model CIW School@ModelCIWSchool
http://www.facebook.com/http://www.twitter.com/

Model Church in Wales School,

College Road,

Carmarthen

SA31 3EQ

Tel: 01267 234386

Email: admin@model-school.co.uk