Gwerthoedd Gydol Oes

Agweddau dysgu emosiynol a chymdeithasol SEAL

Mae gan Ysgol y Model ethos gadarn Gristnogol, mae’r plant yn cael eu hannog i ddatblygu gwerthoedd megis, dewrder; parch, dyfalbarhad, cyfeillgarwch, maddeuant, cyfrifoldeb a diolchgarwch.

Dysgwyd y gwerthoedd hyn drwy storiau Iesu. Cafwyd y plant gyfleoedd i feddwl a gweithredu eu gwerthoedd Cristnogol drwy y cwricwlwm, gwersi penodol Addysg Grefyddol a sesiynau addoli ar y cyd.

Yn ogystal, dilynwyd fframwaith SEAL, sy’n cynnig cyfleoedd i gefnogi’r plant a^’u sgiliau llythrennedd emosiynol, maent yn cefnogi’r plant i feddwl am eu:

  • Ymwybyddiaeth gymdeithasol
  • Deall eu teimladau
  • Ysbrydoliaeth
  • Empathi
  • Rhyngweithiau cymdeithasol

Rhannwyd y themau dros y flwyddyn:

Hydref:

  • Dechrau o’r newydd
  • Cwympo mas a bod yn ffrindiau
  • Dweud na i fwlio

Gwanwyn

  • Taro ein targedau
  • Hapus bod yn fi fy hun

Haf

  • Perthnasoedd
  • Newidiadau

Defnyddiwyd y rhaglen fel adnodd ysgol gyfansy’n anelu at helpu’r plant ffynnu i fod yn ddysgwyr cyfrifol ac unigolion hyderus. Defnyddiwyd dau hysbysfwrdd i arddangos gwaith y plant yn ymwneud a^’r gystadleuaeth y thema.