CRFFA

Croeso i Gymdeithas Rieni, Ffrindiau ac athrawon

Sefydlwyd y CRFfA ym mis Hydref 1982, pan oedd yr ysgol ar yr hen safle yn Heol y Gwyddau.

Nifer bach yw’r criw, ac maent yn croesawu aelodau newydd o hyd. Maent yn gweithio mor galed i godi arian drwy drefnu gweithgareddau amrwyiol, megis gwlychu’r athrawon yn y ffair haf, hyd at dynnu llun arbennig gyda Si^on Corn yn ffair Nadolig. Mae’r Gymdeithas yn tynnu rhieni a staff at ei gilydd mewn ffordd hwylus ac effeithiol er mwyn codi arian tuag at yr ysgol.

Dros y blynyddoedd, maent wedi prynu wal ddringo, beiciau, adnoddau garddio, pyst p^el-droed, teganau’r buarth, llyfrau darllen a phob blwyddyn mae’r Gymdeithas yn trefnu i Si^on Corn alw heibio, gydag anrheg i bob dosbarth.

Mae gan y Gymdeithas clwb Mileniwm yn ogystal, cewch ymuno drwy gyfrannu £1 pob wythnos, fel g^em loteri- ffurflenni ar gael i lawrlwytho, cewch ddychwelyd i’r swyddfa).

Os oes gennych ddiddordeb i ymuno, cysylltwch ag athrawon Mrs Rhian Owen (CA2), neu Mrs Catherine Young (CS), a chofiwch edrych ar ein tudalen Facebook.

Os hoffech ymuno, cysylltwch ^a’r swyddfa’r ysgol neu cofiwch edrych ar y calendr ysgol arlein am ddyddiad y cyfarfod nesaf.