E-Ddiogelwch

Newyddion cyffrous…

Ar ddiwed tymor yr haf 2017, fe ddaeth ymwelydd SWGfL i’r ysgol, i’w hasesu yn ôl ein darpariaeth diogelu plant ar lein. Roedden ni’n falch iawn, i dderbyn y anghrydedd o fod yr ysgol gyntaf yng Nghaerfyddin i dderbyn y Marc Diogelu 360°.

Rydym wedi derbyn y marc oherwydd bod yr ysgol yn ceisio sicrhau prosesau diogel ar gyfer defnyddwyr technoleg digidol. Mae’r wobr wedi ei harddangos yng nhyntedd yr ysgol. Edrychwn ymlaen at barhau ar ein siwrne e-ddiogelwch, gan sicrhau bod ein disgyblion yn datblygu i fod yn ddefnyddwyr digidol, cyfrifol. 

Mae gan Ysgol y Model, agenda gadarn ar gyfer eu prosesau e-diogel. Rhaid addysgu’r plant y pwysigrwydd o weithredu’n ddiogel arlein. Yn ogystal a^ darparu cwricwlwm e-diogelwch, rydym hefyd yn gweithio tuag at y marc safon 360*  e-diogelwch. Darparwyd gwersi e-diogelwch gan heddwas yr ysgol, i sicrhau bod staff a phlant, yn ogystal a^ rhieni, yn derbyn yr un negeseuon. 

Gweler copiau ein cytundebau yn yr adran Dogfennau.

Mae’n hanfodol bod pawb yn cytuno i’w harwyddo.

Dilynwyd rheolau Campus ar gyfer e-diogelwch. Yn dilyn cystadleuaeth, dewiswyd dau boster, sy’n cael eu harddangos ym mhob dosbarth cyfnod sylfaen a chyfnod allweddol dau.

Hoffwn rannu rhai pwyntiau defnyddiol, yn ymwneud ag e-diogelwch yn y cartref:

  1. Sicrhewch eich bod yn goruchwylio eich plentyn arlein
  2. Sicrhewch fod y lleoliadau rhieni arno ar bob dyfais
  3. Byddwch yn ymwybodol fod yr oedran caniatad ar gyfer Facebook a Twitter yn 13 oed
  4. Atgoffwch eich plentyn am y rheolau Campus
  5. Trafodwch y pwysigrwydd o rannu unrhyw beth sydd yn eu hachosi i boeni arlein

www.commonsensemedia.org

www.ceop.police.uk

www.saferinternet.org.uk

Gyda’n gilydd gallwn gobeithio sicrhau bod gan y plant ymwybyddiaeth a dealltwriaeth gadarn o fod yn e-ddiogel ar lein, gan fod eu chwilfrydedd a sgiliau TGCh yn datblygu mor gyflym.