Prydau Ysgol

Am £2.50 y dydd yn unig, bydd eich plentyn yn cael prif bryd dau gwrs sy’n cynnwys dewis llysieuol a phwdin. Hefyd mae ffrwythau ffres a dŵr yfed ar gael ym mhob ysgol.

Mae ein bwydlenni yn dilyn trefn rota 3 wythnos, sy’n cael ei newid ddwywaith y flwyddyn, sef ym mis Mai a mis Hydref, er mwyn caniatáu ar gyfer amrywiant tymhorol. 

Rhaid talu Clerc Prydau Ysgol eich ysgol ymlaen llaw am brydau Ysgol, sef Mrs Tracy Bryan (o’r swyddfa’r ysgol).  Er hwylustod, gellir talu bob wythnos, bob pythefnos, neu bob tymor, a hynny naill ai trwy siec (yn daladwy i Gyngor Sir Caerfyrddin) neu drwy arian parod.