Cyngor Ysgol

Dros y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi cyfuno’r Cyngor Ysgol gyda’r Cyngor Eco a’r Cyngor Cymraeg i greu un cyngor mawr. Ar ddechrau’r flwyddyn, etholwyd 2 ddisgybl o bob dosbarth, gan ddechrau yn y derbyn a gorffen ym mlwyddyn 6. Ysytyrir llais pob unigolyn yn yr ysgol, drwy’r drafodaethau a phenderfyniadau sy’n cael eu cyflwyno gan y Cyngor.

Gofynnir i’r dosbarthiadau gwrdd yn aml er mwyn iddynt allu trafod cynigion er lles gwella’r ysgol. Mae’r cynrychiolwyr yn dod i’r cyfarfod yn llawn syniadau bob tro.

Yn 2016, cynhaliwyd cystadleuaeth i’r plant ddarlunio logo i gynrychioli’r tri chyngor. Roedd angen iddynt gynnwys:

  • tri llun neu ddarlun i hysbysu’r tri chyngor gwahanol
  • datganiadau’r Cynghorau
  • lluniau lliwgar a disglair.

Roedden ni wrth ein bodd gyda’r safon a chafwyd dros gant o luniau. Cafodd y Cyngor y ddyletswydd anodd o orfod dewis yr enillydd ond fe benderfynwyd ar un yn y diwedd.