Pencampwyr Digidol

Mae gan yr ysgol bencampwyr digidol i helpu monitro’r datblygiadau technoleg gwybodaeth. Mae un aelod i bob dosbarth.

Mae’r plant yn cael eu dewis gan yr athrawon, am fod yn blant sydd wedi dangos diddordeb a brwdfrydedd yn y maes. 

Maent yn hyrwyddo rheolau campus, fel bod nhw’n gallu dangos i weddill y plant, ffyrdd o gyrraedd safonau uchel, sydd yn eu helpu nhw hefyd, i’w lwyddo. 

Hyfforddir y pencampwyr digidol i wneud tasgau penodol, er enghraifft, arddangos yr holl waith arbennig sydd yn digwydd yn yr ysgol. Maent o hyd yn edrych am ffyrdd newydd i helpu cefnogi eu cyfoedion .

Mae rol y pencampwyr yn hanfodol i ni yn yr ysgol, wrth i ni symud ar ein taith ar hyd y fframwaith digidol newydd.

Edrychwn ymlaen at arddangos peth gwaith dosbarth y pencampwyr ar ein safleoedd cyfryngau cymdeithasol.

Rydym ni fel ysgol, mor falch o’r gwaith mae’r plant yn cyflawni. Yn ddiweddar, yn arbennig, roedd y pencampwyr digidol Bl.5a6, wedi cymryd rhan mewn cystadleuaeth Wythnos hybu prydiau ysgol, lle roedd angen creu cyfres o luniau, i ddathlu’r prydiau. Roedd y plant mor frwdfrydig, a buon nhw’n creu joc i gyd-fynd a phob llun. Enillodd yr ysgol wobr £100 am eu hymdrechion. Da iawn i chi gyd! Gall weld y lluniau ar dudalen gwefan prydiau ysgol.

https://hwb.wales.gov.uk